Y cefndir

Yn ystod ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2019, cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull cyffredinol o ymgysylltu â dinasyddion yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ('y Bil').

Cynigiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddull ansoddol o ymgysylltu, a oedd yn cynnwys casglu barn ac agweddau dinasyddion, gan ganolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc.

Y dull o ymgysylltu

Fel rhan o waith craffu Cyfnod 1 y Pwyllgor ar y Bil, mae Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn casglu barn pobl ledled Cymru trwy ddull trafod ar-lein o'r enw Loomio ac yn ystod sesiynau addysg gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid.

O ystyried yr amserlen ar gyfer ystyried Cyfnod 1 y Bil, roedd rhan sylweddol ohoni yn cyd-daro â'r gwyliau ysgol yng Nghymru. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gasglu barn pobl ifanc ar-lein.

Loomio

Platfform ar-lein hawdd ei ddefnyddio yw Loomio sydd wedi'i gynllunio i gynnal trafodaethau agored ac i alluogi cyfranogwyr i rannu barn a chyfathrebu â'i gilydd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymgysylltu o bell a rhoi sylwadau ar gyfraniadau cyfranogwyr eraill.

Rhoddwyd cefndir a chyd-destun y Bil i'r cyfranogwyr, gan gynnwys fideo byr i esbonio’r gwaith.  Defnyddiwyd hwn i hyrwyddo'r drafodaeth ar-lein ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cynulliad. Gofynnwyd y cwestiynau a ganlyn i'r cyfranogwyr: -

§    Ydych chi’n credu y dylai hi fod yn drosedd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol? Os felly, pam?

§    Ydych chi’n meddwl bod y cyfle i brofi anifeiliaid gwyllt mewn syrcas deithiol yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar blant a phobl ifanc?

§    Pa effaith ydych chi’n credu y bydd gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn ei chael ar agweddau pobl ifanc tuag at anifeiliaid?

§    Ydych chi’n credu y gall gweld anifail gwyllt mewn syrcas deithiol helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am anifeiliaid?

Cynhyrchodd y drafodaeth ar-lein 23 o gyfraniadau gan ddisgyblion ysgol yn bennaf, myfyrwyr coleg ac aelodau grwpiau ieuenctid, a oedd yn cynnwys rhai Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Cynhaliodd tîm Ymgysylltu â Dinasyddion a thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad hefyd drafodaethau grŵp ffocws ag ysgolion a grwpiau ieuenctid yn cynnwys 43 o bobl ifanc rhwng 15 a 26 oed.

Y sylwadau a wnaed ar Loomio

1.              Ydych chi’n credu y dylai hi fod yn drosedd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol? Os felly, pam?

Denodd y cwestiwn hwn 15 sylw. Mae'r holl sylwadau ar gael dim ond gofyn amdanynt. Mae braslun o’r ymatebion isod. Heblaw am y rhai a gyflwynwyd yn Gymraeg, cyfieithiad o’r Saesneg ydynt.

Sylwadau

Na. Rwy'n anghytuno â'r bwriad i’w wneud yn drosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ac rwy’n credu bod pynciau llawer pwysicach y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ganolbwyntio arnyn nhw.

Rwy'n credu y byddai'n amlwg yn synhwyrol i gynhyrchu gofynion ar gyfer deddfu syrcasau teithiol o ran lles yr anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir. Rhaid i ran o hyn, yn fy marn i, fod yn ofyniad i addysgu a gwella ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu anifeiliaid gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol. Gall syrcasau teithio chwarae, yn fy marn i, rôl ddilys ac amhrisiadwy wrth addysgu'r cyhoedd am anifeiliaid gwyllt a'r materion sy’n codi lle mae llawer o rywogaethau'n wynebu difodiant.

Y tro diwethaf y bûm i mewn syrcas deithiol, a oedd ag eliffantod, fe'n gwahoddwyd yn agored i ymweld â'r anifeiliaid ar ôl y sioe lle gallem weld nid yn unig pa mor dda yr oedd yr anifeiliaid yn cael gofal ond hefyd gael gwybod o ble roedd yr anifeiliaid hyn wedi dod (roedden wedi cael eu bridio mewn caethiwed) a'r llu o faterion a wynebai'r anifeiliaid hyn yn y gwyllt. Roedd yn addysgiadol ac yn ddiddorol.

Pe bai'r Bil hwn yn dod yn ddeddf, pa ddarpariaethau a wneir ar gyfer diogelwch a lles unrhyw anifeiliaid gwyllt sy'n bodoli o fewn syrcasau teithiol?

Hefyd, gan fod Cymru (y tro diwethaf i mi edrych) yn rhan o'r Deyrnas Unedig, mae arwain gyda darn o ddeddfwriaeth fel hyn yn creu llawer o broblemau posib. Er enghraifft, gallai olygu bod syrcasau teithio yn cefnu ar Gymru oherwydd, os oes ganddyn nhw anifeiliaid gwyllt a ganiateir yn Lloegr ond ddim yng Nghymru, ni fyddai'n economaidd ymarferol i'r syrcas deithiol roi’r anifeiliaid mewn ‘cartref’ cyn teithio dros y ffin.

 

Sylwadau

Dylai – mae anifeiliaid gwyllt yn haeddu amgylchedd mor agos â phosibl i'w cynefin naturiol, ac ni ddylid eu gorfodi i ymddygiad annaturiol.

 

 

Sylwadau

Dylai. Nid wyf yn siŵr a yw’r gweithwyr wedi'u hyfforddi'n llawn i ofalu am iechyd a lles yr anifeiliaid. Efallai eu bod yn cael eu trin yn wael ac nad oes ganddyn nhw ddigon o le i symud ac i ddilyn eu greddf naturiol. Nid wyf yn siŵr chwaith o ble mae'r anifeiliaid yn dod. Mae'n bosibl eu bod wedi cael eu cymryd yn anghyfreithlon.

 

 

Sylwadau

Dylid caniatáu i anifeiliaid fod yn rhan o syrcas deithiol os ydyn nhw yn yr amodau cywir ac yn cael eu trin yn gywir

 

 

Sylwadau

Dylai, fe ddylai fod yn drosedd. Nid yw anifeiliaid wedi cael eu gwneud i "neidio" cylchoedd, ni waeth sut maen nhw'n cael eu trin; nid yw'n naturiol, ac nid oes ganddyn nhw ddewis. Rwy'n siŵr na fyddai llawer o bobl yn hapus i gael eu gorfodi i wneud pethau o'r fath.

 

Sylwadau

Mae'n anghywir defnyddio anifeiliaid fel adloniant.
Dylai anifeiliaid fod yn rhydd i grwydro o gwmpas fel y mynnant
Maen nhw’n haeddu cael eu trin yn deg fel yr ydym ni.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn yn Gymraeg: -

 

Sylwadau

Yndi, mae’n drosedd sy'n anghredadwy i mi ei bod hi dal yn cael ei chofleidio heddiw. Mae'r cysyniad o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt fel modd o adloniant teuluol yn hollol anerbynniol, anaturiol a di-bwynt. Dylai anifeiliaid gael yr hawl i fyw mewn amgylchedd diogel a rhydd. Mae'r ffenomemon o syrcasau teithiol ar drai, felly dylai defnyddio anifeiliaid gwyllt cael ei ddiweddu hefyd.

 

 

Sylwadau

Dylai fod yn drosedd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, maen nhw’n haeddu bod allan yn eu cynefin yn byw eu bywydau naturiol lle dylen nhw fod. Dydyn nhw ddim wedi’r arfer â’r fath awyrgylch â ni ac er mwyn iddynt fod, maent yn cael eu camdrin a’u “hyfforddi”, hynny yw, cyflyru i berfformio triciau anaturiol sydd yn groes i’w greddf a dim ond er mwyn ein diddanu ni, mae hyn yn greulon!

 

 

2.             Ydych chi’n meddwl bod y cyfle i brofi anifeiliaid gwyllt mewn syrcas deithiol yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar blant a phobl ifanc?

Denodd y cwestiwn hwn 3 sylw.

Sylwadau

Rwyf o'r farn bod pobl ifanc sy'n cael cyfle i weld anifeiliaid gwyllt sy'n derbyn gofal da, yn eu galluogi i ddeall eu harddwch a'r angen i warchod ac amddiffyn y gwahanol rywogaethau o anifeiliaid gwyllt sy'n bodoli, cyhyd â bod gweld yr anifeiliaid yn gysylltiedig ag addysg ac ymwybyddiaeth briodol. Mae'r cyfle i'w gweld mewn syrcasau teithiol yn sicrhau bod ystod ehangach o bobl ifanc yn gallu gweld anifeiliaid gwyllt. Yn gyffredinol, cyhyd â bod gofal a lles yr anifeiliaid yn arddel y safonau gorau, yna rwyf o’r farn bod y cyfle i weld anifeiliaid gwyllt mewn syrcas deithiol yn un cadarnhaol.

I’r gwrthwyneb, os caniateir i'r Bil hwn lwyddo, yna bydd gan bobl ifanc lawer llai o gyfle i weld anifeiliaid gwyllt o ystyried y costau cynyddol o ymweld â sw. Rwy'n credu bod angen gwell rheoliadau, ynghyd â goruchwyliaeth briodol, i sicrhau lles anifeiliaid sy'n rhan o syrcasau teithio. Ond nid wyf yn credu bod gwahardd eu defnyddio yn ffordd gadarnhaol o warchod eu lles.

 

Sylwadau

Negyddol - mae'n portreadu anifeiliaid gwyllt fel pethau ar gyfer adloniant dynol. Mae'n gwadu'r angen am gadwraeth.

 

Sylwadau

Negyddol. Fe'u cedwir mewn cytiau cyfyng heb ddigon o le i symud, hela ac ati. Dylen nhw fod yn y gwyllt. Mae eu gweld yn perfformio mewn syrcas yn rhoi’r argraff i blant ei bod yn dderbyniol tynnu anifeiliaid gwyllt o’u cynefinoedd naturiol ar gyfer adloniant dynol.

 

3.             Pa effaith ydych chi’n credu y bydd gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn ei chael ar agweddau pobl ifanc tuag at anifeiliaid?

Sylwadau

Effaith dda, mae'n fwy parchus tuag at anifeiliaid.

 

Sylwadau

Bydd gweld anifeiliaid mewn syrcas yn rhoi’r argraff i blant ei bod yn dderbyniol cadw anifeiliaid gwyllt mewn mannau cyfyng fel y gallan nhw ddarparu adloniant. Nid yw'n iawn. Yn lle hynny gallant sylweddoli y dylai anifeiliaid gwyllt fod yn y gwyllt. Bellach gallwn wylio ffilm wych o'r anifeiliaid yn y gwyllt. Llawer gwell gweld hwn yn hytrach nag anifail wedi’i ddofi mewn syrcas.

4.             Ydych chi’n credu y gall gweld anifail gwyllt mewn syrcas deithiol helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am anifeiliaid?

Sylwadau

Yn bendant ddim - dim ond mewn cynefin mor agos â phosib i’w cynefin naturiol y dylid eu gweld (gwarchodfeydd ac yn y gwyllt). Rhaid i'r pwyslais fod ar amddiffyn ac addysg, nid ar adloniant.

 

Sylwadau

Na. Nid yw anifeiliaid bob amser yn cael eu trin yn dda. Os ydych chi wir eisiau gweld anifeiliaid gwyllt, yna sŵau parchus yw'r lle gorau (oni bai eich bod chi'n gallu eu gweld yn y gwyllt).

Derbyniwyd y sylw a ganlyn yn Gymraeg: -

Sylwadau

Yr unig beth y gallent wir ei ddysgu yw fod lle anifeiliaid gwyllt yn y gwyllt ac nid yn y syrcas, mae’n anheg ar yr anifeiliaid fod yn gaeth yn y syrcas ac mae sawl gwahanol ffordd o ddysgu plant am anifeiliaid fel y profwyd gan sawl techneg ddysgu yn yr ysgol ac ati.